September 29, 2026 

Yn barod i gychwyn? Mae diweddariad mis Medi yn cynnwys llwybrau amgen gwell, gosodiad i optimeiddio trefn arosfannau'r llwybr, marciau cliriach ar gyfer ardaloedd dŵr ysbeidiol, ac eicon llygad i guddio traciau unigol, ynghyd â llawer o drwsiadau a gwelliannau eraill (gweler isod).

Gosoda neu ddiweddara Organic Maps drwy https://get.omaps.org, yr App Store, Google Play, Huawei AppGallery, Obtainium, Accrescent neu F-Droid.

Os wnest ti fethu ein diweddariadau blaenorol, edrycha ar y nodweddion a ryddhawyd ym mis Mehefin, Gorffennaf ac Awst. Diolch i’n cyfranwyr a’n defnyddwyr a wnaeth y diweddariadau hyn yn bosibl!

Sut i gefnogi Organic Maps

  • Rho rodd i gefnogi datblygiad a thalu costau cynnal y mapiau
  • Anfon dy adborth a chyfranna at y prosiect
  • Ymun â’r profion beta i roi cynnig ar nodweddion newydd yn gynnar ac adrodd am broblemau ar iOS, Android a chyfrifiaduron
  • Lledaena’r gair a helpa ni i adeiladu dewis gwell yn lle mapiau’r cwmnïau technoleg mawr!

Nodiadau rhyddhau

Map

  • Data OpenStreetMap o 28 Medi, 2026
  • Data Wicipedia o 21 Medi, 2026
  • Trwsiwyd chwiliadau pan fydd ardal weladwy’r map yn croesi’r meridian 180° (±180° hydred) (Viktor Govako)
  • Mae ardaloedd dŵr ysbeidiol bellach yn cael eu dangos gyda phatrwm dotiau, yn debyg i'r un a ddefnyddir ar gyfer tywod (Alexander Borsuk)
  • Mae cronfeydd dŵr bellach yn weladwy wrth chwyddo allan ymhellach (Alexander Borsuk)
  • Nid yw twneli dŵr yn cael eu dangos ar y map mwyach (Alexander Borsuk)
  • Diwygiwyd eiconau gorsaf a mynedfa Metro Suzhou (Alexander Borsuk)
  • Datryswyd achosion prin lle'r oedd labeli'n symud allan o'u lle ar haen map y metro (Viktor Govako)

Cynllunio llwybrau a llywio

  • Gwell llwybrau amgen a'u hamseroedd cyrraedd amcangyfrifedig (Alexander Borsuk, Viktor Govako)
  • Mae'r llwybr amgen a ddewiswyd bellach yn cael ei gadw pan fydd y llywio'n ailgyfrifo'r llwybr (Alexander Borsuk)
  • Mae trefn arosfannau'r llwybr bellach wedi'i hadfer ar ôl ailgychwyn yr ap (Kiryl Kaveryn)

Gwelliannau eraill

  • Mae oriau agor bellach yn dangos ‘Canol dydd’ ar gyfer 12:00 a ‘Canol nos’ ar gyfer 00:00 neu 24:00 (Alexander Borsuk)
  • Trwsiwyd bygiau a gwellwyd recordio traciau (Alexander Borsuk)
  • Trwsiwyd mewnforio ffeiliau KMB (Alexander Borsuk)
  • Cyfieithiadau Ffrangeg ac Astwreg wedi'u cywiro (Alexander Borsuk)
  • Cywirwyd gwall teipio yn Saesneg (Carl Morris)

iOS

  • Ychwanegwyd eicon llygad i guddio traciau unigol (Kiryl Kaveryn)
  • Ychwanegwyd botymau i ychwanegu neu amnewid arosfan mewn llwybr wedi’i gynllunio (Kiryl Kaveryn)
  • Ychwanegwyd gosodiad i optimeiddio trefn yr arosfannau canolradd ar y llwybr (Kiryl Kaveryn)
  • Ychwanegwyd cyfarwyddiadau ar gyfer symudiadau llywio at arddangosfeydd pen-i-fyny (HUDs) cydnaws mewn ceir a dangosfwrdd CarPlay (Kiryl Kaveryn)
  • Trwsiwyd botymau CarPlay a’r chwilio (Alexander Borsuk)
  • Atgyweirwyd amryw o fygiau a gwellawyd y rhyngwyneb defnyddiwr (Kiryl Kaveryn, Alexander Borsuk)
  • Ychwanegwyd cefnogaeth i ddewis llais llywio sydd wedi’i osod a gwrando ar sampl ohono (Kiryl Kaveryn, Alexander Borsuk)
  • Adferwyd chwilio yn ôl categori yn Spotlight (Kiryl Kaveryn)

Android

  • Ychwanegwyd gosodiad i optimeiddio trefn yr arosfannau canolradd ar y llwybr (Mikhail Listratsenka)
  • Ychwanegwyd botymau i ychwanegu neu amnewid arosfan mewn llwybr wedi’i gynllunio (Mikhail Listratsenka)
  • Ychwanegwyd y gallu i atal recordiad trac a chadw'r trac o'r hysbysiad (Alexander Borsuk)
  • Mae’r botwm ‘Ychwanegu arosfan’ bellach yn ychwanegu arosfan ar ôl yr arosfannau presennol, cyn y gyrchfan (Mikhail Listratsenka)
  • Uwchlwythiadau gwell o'r golygydd OpenStreetMap (Owm)
  • Diweddarwyd dyluniad y rhyngwyneb defnyddiwr (Mikhail Listratsenka)
  • Mae'r golygydd nodau tudalen a deialogau eraill bellach yn aros ar agor wrth lywio (Mikhail Listratsenka)
  • Trwsiwyd rendro’r siart uchder ar gyfer traciau gwastad ac mewn rhyngwynebau o’r dde i’r chwith (Mikhail Listratsenka)
  • Trwsiwyd y broblem lle roedd bariau’r system yn torri botymau’r map i ffwrdd (Mikhail Listratsenka)
  • Atgyweirwyd bygiau a gwellawyd cefnogaeth i Android Auto (Andrei Shkrob)
  • Trwsiwyd chwalfa wrth rendro’r map (Viktor Govako)

Bwrdd gwaith

  • Ailenwyd y ffeil weithredadwy bwrdd gwaith a'r bwndel ap macOS i OrganicMaps (Alexander Borsuk)
  • Datrysiwyd problemau yn ap Windows (Osyotr, Alexander Borsuk)
  • Mae’r arg --lang ar y llinell orchymyn bellach yn diystyru gosodiad iaith yr ap (Alexander Borsuk)

Gyda llawenydd ac angerdd,

Dy dîm Organic Maps