Organic Maps: Crwydro, Seiclo, Llwybrau a Llywio All-lein
Organic Maps yn ap mapiau all-lein a GPS sy'n canolbwyntio ar breifatrwydd ar gyfer heicio, seiclo a gyrru. Cwbl am ddim. Dim hysbysebion. Dim tracio. Wedi'i ddatblygu gyda chariad gan y gymuned cod agored a'r un bobl a greodd ap MapsWithMe/Maps.Me. Wedi'i bweru gan ddata OpenStreetMap.
Organic Maps yw un o'r ychydig apiau y dyddiau hyn sy'n cefnogi 100% o nodweddion heb angen cysylltiad rhyngrwyd. Gosoda Organic Maps, lawrlwytha mapiau, a chael gwared ar dy gerdyn SIM , a chei fynd ar drip am wythnos heb angen gwefru dy ffôn, a heb ddanfon beit i'r rhwydwaith.
Ym mis Rhagfyr 2025, cyrhaeddodd Organic Maps 6M o osodiadau. Helpa ni i ehangu!
Lawrlwytha a gosod Organic Maps o AppStore, Google Play, FDroid, Huawei AppGallery, Obtainium, Accrescent
Nodweddion
Organic Maps yw'r ap gorau ar gyfer teithwyr, twristiaid, heicwyr a seiclwyr:
- Mapiau manwl all-lein gyda lleoliadau sydd ddim yn bodoli ar fapiau eraill, diolch i OpenStreetMap
- Llwybrau seiclo, heicio, a cherdded
- Cyfuchlinau, proffeiliau dyrchafiad, copaon, a llethrau
- Cyfeiriadau troell-wrth-droell ar gyfer llywio wrth gerdded, seiclo, a gyrru gydag arweiniad llais ac CarPlay/Android Auto
- Mapiau metro/isffordd
- Chwilio all-lein cyflym ar y map
- Llyfrnodau ac olion yn fformatiau KML, KMZ, a GPX, GeoJSON
- Thema lliw tywyll i amddiffyn dy lygaid
- Gwledydd ac ardaloedd sydd ddim yn defnyddio llawer o gof
- Erthyglau Wicipedia ar gyfer lleoedd poblogaidd
- Ffynhonnell agored ac am ddim
Pam Organic?
Mae Organic Maps yn bur ac yn organig, ac wedi'i greu â chariad:
- Yn parchu dy breifatrwydd
- Yn arbed dy fatri
- Dim taliadau data annisgwyl
Does dim tracwyr na phethau drwg arall yn yr ap Organic Maps:
- Dim hysbysebion
- Dim tracio
- Dim casgliad data
- Dim angen cofrestru
- Dim tiwtorial gorfodol
- Dim sbam e-bost swnllyd
- Dim hysbysiadau push
- Dim 'crapware'
Dim plaladdwyrYn hollol organig!
Mae'r ap wedi cael ei wirio gan Exodus Preifatrwydd Project:
Mae'r ap iOS wedi cael ei wirio gan TrackerControl for iOS:
Dydy Organic Maps ddim yn gofyn am ormod o ganiatadau i ysbïo arnat ti:
At Organic Maps, credwn fod preifatrwydd yn hawl dynol sylfaenol:
- Mae Organic Maps yn brosiect ffynhonnell agored annibynnol sydd wedi'i yrru gan y gymuned
- Rydym yn amddiffyn dy breifatrwydd o lygaid cwmnïoedd technoleg fawr
- Aros yn ddiogel ble bynnag yr wyt
Gwrthoda wyliadwriaeth - mwynha dy ryddid.
Pwy sy'n talu am yr ap am ddim?
Mae'r ap am ddim i bawb. Os gweli'n dda, cyfranna yn ariannol i'n cynorthwyo!
I'n cynorthwyo'n ariannol yn gyfleus, clicia ar eicon dy hoff ffordd o dalu isod:
Mae noddwyr sefydliadol annwyl isod wedi darparu grantiau wedi'u targedu i dalu costau seilwaith ac ariannu datblygiad nodweddion newydd a ddewiswyd:
|
|
Mae'r prosiect gwella Chwilio a Ffontiau wedi cael ei ariannu trwy Gronfa NGI0 Entrust. Sefydlir Cronfa NGI0 Entrust gan y Sefydliad NLnet gyda chefnogaeth ariannol gan raglen Next Generation Internet y Comisiwn Ewropeaidd, o dan nawdd DG Rhwydweithiau Cyfathrebu, Cynnwys a Thechnoleg o dan gytundeb grant Rhif 101069594. |
|
|
Google cefnogodd brosiectau myfyrwyr yn rhaglen Google Summer of Code yn ystod rhaglenni 2022, 2023, 2024, 2025. Roedd prosiectau nodedig yn cynnwys Android Auto, Echdynnwr Dympio Wicipedia, Recordio Traciau ar gyfer Android. |
|
Mae ISP Mythic Beasts yn darparu i ni ddau weinydd rhithwir gyda hyd at 400 TB/mis o led band am ddim i gynnal a gweini lawrlwythiadau a diweddariadau mapiau. |
|
|
44+ Technologies yn darparu i ni weinydd pwrpasol am ddim gwerth tua $12,000/flwyddyn i weini mapiau ar draws Fietnam a De-ddwyrain Asia. |
|
|
FUTO wedi dyfarnu micro-grant o $1000 i Organic Maps ym mis Chwefror 2023. |
Cymuned
Mae Organic Maps yn feddalwedd ffynhonnell agored sydd wedi'i thrwyddedu o dan y drwydded Apache License 2.0.
- Os gweli'n dda, ymuna â'n system profi beta, awgryma dy syniadau, ac adrodda broblemau:
- Adrodda broblemau i'r olrhain problemau neu anfona e-bost aton ni.
- Trafoda syniadau neu gofynna am nodweddion newydd.
- Tanysgrifia i'n sianel Telegram neu i'r gofod matrix ar gyfer newyddion.
- Ymuna â'n grŵp Telegram i drafod gyda defnyddwyr arall.
- Ymweld â'n tudalen GitHub.
- Dilyna ein newyddion ar FOSStodon, Facebook, Twitter, Instagram, Bluesky, Threads, Reddit, LinkedIn, TikTok.
