Organic Maps: Crwydro, Seiclo, Llwybrau a Hwylio All-lein
Mae Organic Maps yn ap am ddim ar gyfer Android ac iOS gyda mapiau all-lein ar gyfer teithwyr, twristiaid, heicwyr a seiclwyr ar sail data cyfraniad torfol OpenStreetMap. Mae'n fforc cod agored a phreifat o'r ap Maps.me (MapsWithMe cyn hynny), a chynhelir gan yr union bobl sydd wedi creu MapsWithMe yn 2011.
Organic Maps yw un o'r unig apiau y dyddiau hyn sy'n cefnogi 100% o nodweddion heb angen cysylltiad rhyngrwyd. Gosodwch Organic Maps, lawrlwythwch mapiau, a chael gwared ar eich cerdyn SIM (gyda llaw, mae eich gweithredwr yn eich tracio chi'n gyson), a chewch mynd ar drip am yr wythnos heb angen gwefru eich ffôn, a heb ddanfon beit i'r rhwydwaith.
In 2023, Organic Maps got its first million users. Help us to scale!
Lawrlwytho a gosod Organic Maps o AppStore, Google Play, Huawei AppGallery, Obtainium, FDroid




Nodweddion
Organic Maps yw'r ap gorau ar gyfer teithwyr, twristiaid, heicwyr a seiclwyr:
- Mapiau manwl all-lein gyda lleoliadau sydd ddim yn bodoli ar fapiau eraill, diolch i OpenStreetMap
- Llwybrau seiclo, heicio, a cherdded
- Cyfuchlinau, proffeiliau dyrchafiad, brigau, a llethrau
- Cyfeiriadau troell-wrth-droell ar gyfer llywio wrth gerdded, seiclo, a gyrru gydag arweiniad llais ac Android Auto
- Chwilio all-lein cyflym ar y map
- Llyfrnodau ac olion yn fformatiau KML, KMZ, a GPX
- Thema lliw tywyll i amddiffyn eich llygaid
- Gwledydd ac ardaloedd sydd ddim yn defnyddio llawer o gof
- Ffynhonnell agored ac am ddim
Pam Organic?
Mae Organic Maps yn bur ac yn organig, ac wedi'i greu â chariad:
- Yn parchu eich preifatrwydd
- Yn arbed eich batri
- Dim taliadau data annisgwyl
Does dim tracwyr na phethau drwg arall yn yr ap Organic Maps:
- Dim hysbysebion
- Dim tracio
- Dim casgliad data
- Dim galw adref
- Dim angen cofrestru
- Dim tiwtorial gorfodol
- Dim sbam e-bost swnllyd
- Dim hysbysiadau push
- Dim 'crapware'
- ~~Dim plaladdwyr ~~ Yn hollol organig!
Mae'r ap wedi cael ei wirio gan Exodus Privacy Project:

Mae'r ap iOS wedi cael ei wirio gan TrackerControl for iOS:

Dydy Organic Maps ddim yn gofyn am ormod o ganiatadau i ysbïo arnoch chi:


At Organic Maps, credwn fod preifatrwydd yn hawl dynol sylfaenol:
- Mae Organic Maps yn brosiect ffynhonnell agored annibynnol sydd wedi'i yrru gan y gymuned
- Rydym yn amddiffyn eich preifatrwydd o lygaid cwmnïoedd technoleg fawr
- Arhoswch yn ddiogel ble bynnag yr ydych
Gwrthodwch wyliadwriaeth - mwynhewch eich rhyddid.
Pwy sy'n talu am yr ap am ddim?
Mae'r ap am ddim i bawb. Os gwelwch yn dda, cyfrannwch yn ariannol i'n cynorthwyo!
I'n cynorthwyo'n ariannol yn gyfleus, cliciwch ar eicon eich hoff ffordd o dalu isod:
Ein noddwyr:
Mae ISP Mythic Beasts yn darparu dau weinydd rhithiol i ni gyda 400 TB/mis o led band i helpu ein defnyddwyr gyda lawr lwytho a diweddaru mapiau.
Cymuned
Mae Organic Maps yn feddalwedd ffynhonnell agored sydd wedi'i thrwyddedu o dan y drwydded Apache License 2.0.
- Os gwelwch yn dda, ymunwch â'n system profi beta, awgrymwch eich syniadau, ac adroddwch broblemau:
- Adroddwch broblemau i'r olrhain problemau neu anfonwch e-bost aton ni.
- Trafodwch syniadau neu gofynnwch am nodweddion newydd.
- Tanysgrifiwch i'n sianel Telegram neu i'r gofod matrix ar gyfer newyddion.
- Ymunwch â'n grŵp Telegram i drafod gyda defnyddwyr arall.
- Ymweld â'n tudalen GitHub.
- Dilynwch ein newyddion ar FOSStodon, Mastodon, Facebook, Twitter, Instagram, Reddit, LinkedIn.
- Join (or create and let us know) local communities: Hungarian translators Matrix room