Sut mae defnyddio'r fersiwn flatpak o'r app?
I osod OM ar Linux gyda flatpak, agora'r derfynell a mewnbynnu flatpak install flathub app.organicmaps.desktop
Unwaith y bydd yr ap wedi'i osod gelli ddefnyddio olwyn sgrolio dy lygoden neu'r rheolyddion ar y bar dewislen dde i chwyddo i mewn i'r ardal yr hoffet ei llywio er mwyn lawrlwytho mapiau ar gyfer yr ardal honno. Gelli hefyd glicio ar yr eicon ‘lawrlwytho’ yn y dde isaf. Unwaith y byddi wedi lawrlwytho mapiau ar gyfer y rhanbarthau sy'n bwysig i ti, dylai'r ap weithio hyd yn oed heb gysylltiad rhyngrwyd.
Gelli hofran dy lygoden dros yr eiconau amrywiol i weld rhywfaint o destun cymorth.
I berfformio llwybro a llywio tro wrth dro, mae gennyt un neu ddau o opsiynau. os wyt ti'n gwybod cyfesurynnau GPS dy fannau cychwyn a gorffen, gelli glicio ar yr eicon gosodiadau (uwchben y marc gwirio gwyrdd) a mewnbynnu cyfesurynnau dy fan cychwyn a dy gyrchfan. I osod y man cychwyn ar y map, clicia ar yr eicon llywio a dewis ‘man cychwyn’, yna dal y fysell shift i lawr a chlicia ar y chwith ar y map. I osod y cyrchfan, newidia i ‘diwedd pwynt’ a chlicia ar leoliad ar y map.

Gelli glicio ar yr eicon glas yn union uwchben yr eicon gosodiadau i glirio llywio.

I chwilio am gyfeiriadau a chyrchfannau, clicia ar y chwyddwydr a rho'r cyfeiriad neu'r term chwilio.
I roi nod tudalen ar leoliad, dal y fysell Alt i lawr a chlicia ar y dde ar y lle rwyt ti am nodi tudalen. Efallai na fydd y nod tudalen yn weladwy ar unwaith, i weld a rheoli nodau tudalen mae angen i ti glicio ar yr eicon seren goch.

Defnyddir ap bwrdd gwaith Linux yn bennaf at ddibenion datblygu (rhesymeg profi a gwirio awtomataidd heb orfod llunio ar gyfer ffôn symudol). Croesewir unrhyw wirfoddolwyr i wella defnyddioldeb y fersiwn Linux!