Mae Organic Maps yn ap cod agored sydd ar gael am ddim, ac fe wnaethon ni ei greu i barchu dy breifatrwydd. Fel ninnau, mae Proton wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd defnyddwyr. Rydyn ni wedi dod at ein gilydd i gynnig ffordd arall o gefnogi y gwaith o ddatblygu Organic Maps a chynnal ein gweinyddion.
Os oeddet ti eisoes yn ystyried talu am danysgrifiad i Proton VPN neu wasanaeth arall gan Proton, gelli di helpu i ariannu Organic Maps ar yr un pryd. Os wyt ti’n tanysgrifio drwy ein dolen atgyfeirio (https://protonvpn.com/organicmaps), bydd Proton yn rhoi rhan o dy daliad i’r prosiect.
Mae’r cyfraniad hwn yn ein helpu i ddatblygu nodweddion newydd, trwsio gwallau a thalu am y gweinyddion a’r lled band sydd eu hangen i sicrhau bod mapiau all-lein ar gael i bawb.
Dyma un ffordd arall o gefnogi Organic Maps. Gelli di hefyd roi arian yn uniongyrchol, cyfrannu mewn ffyrdd eraill neu sôn am yr ap wrth bobl eraill.
Diolch i bawb sy’n ein helpu i gadw Organic Maps yn ap cod agored sydd am ddim ac sy’n parchu dy breifatrwydd. A diolch i Proton am gefnogi ein gwaith!
Dy dîm Organic Maps